Llyr Gruffydd AC
 Cadeirydd Dros Dro'r Pwyllgor Cyllid

18 Hydref 2018

Annwyl Llyr,

 

Cyllid ar gyfer prosiectau seilwaith mawr - Model Buddsoddi Cydfuddiannol

Yn ei gyfarfod ar 3 Hydref 2018, cafodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wybodaeth gan yr Athro Gerry Holtham am gyllid ar gyfer prosiectau seilwaith a gan swyddogion Llywodraeth Cymru am y Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM). Rwy'n ysgrifennu atoch i dynnu sylw at rai o bryderon y Pwyllgor yn dilyn y sesiynau hynny.

Mae'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol yn ystyried yr hyn a ddysgwyd o'r defnydd a wneir o'r Mentrau Cyllid Preifat a Phartneriaethau Cyhoeddus-Preifat yn y gorffennol, ac yn ceisio canfod lle gellir trosglwyddo risg yn effeithiol a lle na ellir gwneud hynny. Roedd y Pwyllgor yn falch o glywed na fyddai gwasanaethau 'meddal' yn cael eu cynnwys mewn Model Buddsoddi Cydfuddiannol ac y bydd darpariaeth ar gyfer rheoli contractau gweithredol yn cael ei chynnwys yn y prosiect o'r cychwyn. Yn ogystal, dylai cyfres o gontractau safonol sy'n anelu at sicrhau buddion cymunedol ac unrhyw arian ychwanegol ar enillion ail-ariannu sicrhau gwelliannau pellach a mwy o werth am arian na modelau blaenorol.

Er bod cwestiynau o hyd ynghylch argaeledd staff medrus a phrofiadol a all gyflawni'r rheolaeth gwell sydd ei hangen ar gontractau o ran llwyddiant y model, cytunodd y Pwyllgor ei bod yn ymddangos fod y Model Buddsoddi Cydfuddiannol, wedi cael ei ystyried yn drylwyr ac yn un sy'n sicrhau gwelliannau sylweddol o gymharu â modelau blaenorol. Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor yn pryderu am y cyd-destun y defnyddir y Modelau hyn. Clywodd y Pwyllgor y gellid defnyddio'r model i gyflawni adrannau pump a chwech o'r A465, canolfan ganser Felindre, a Band B o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Ymddengys bod ariannu'r prosiectau hyn yn y modd hwn yn awgrymu na wneir penderfyniadau ariannu yng nghyd-destun ymagwedd strategol, cynlluniedig tuag at ddarparu seilwaith. 

Ni fyddai unrhyw Lywodraeth yn benthyca pe bai ganddi ddigon o gyllideb i gyflawni ei chynlluniau, ond os yw ei huchelgais y tu hwnt i'w gallu o ran cyfalaf, a bod achos cryf dros gyflawni'r uchelgeisiau hynny, yna mae opsiynau benthyg darbodus ar gael. Disgrifiodd yr Athro Holtham fod defnyddio bondiau'r Llywodraeth yn llawer rhatach na'r arian y gellid ei godi gan fuddsoddwyr preifat, yn enwedig ar gyfer prosiectau mwy cymhleth neu risg uwch. Uchafswm y cyllid ar gyfer giltiau o'r fath yw £1 biliwn yng Nghymru, ond nid oes gan y Pwyllgor ymdeimlad o ymholiadau diweddar bod yr opsiwn ariannu hwn yn cael ei ystyried fel rhan o drafodaeth ehangach ynghylch y math cywir o fuddosddiad ar gyfer cyflwyno rhan o raglen o brosiectau cynlluniedig. Roedd yn ymddangos, yn hytrach, bod y Modelau hyn i'w defnyddio pan fydd prosiectau o faint digonol yn dod yn flaenoriaeth i'w cyflenwi. O gofio ei bod yn bosibl gweithredu llawer o agweddau cadarnhaol y Modelau - gwell rheolaeth o gontractau; buddion cymunedol a mabwysiadu codau ymarfer amgylcheddol a chyflogaeth - hefyd drwy gaffael traddodiadol, ymddengys nad yw'n ymarferol cyflwyno prosiectau cymhleth fel band B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif drwy'r Modelau hyn, pan fyddai opsiynau ariannu eraill, rhatach, ar gael.

Bydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn parhau i graffu ar ariannu prosiectau seilwaith mawr, ond mae'n ymddangos bod pwynt o egwyddor ariannol ehangach i'w ystyried. Felly, mae'r Pwyllgor wedi gofyn i mi dynnu eich sylw at y pryderon hyn a gofyn a oes gennych unrhyw gynlluniau i graffu ar strategaeth ariannu cyfalaf Llywodraeth Cymru.  

Gall Clerc y Pwyllgor ddarparu gwybodaeth gefndirol bellach am y materion hyn pe byddai hynny'n ddefnyddiol.  

Diolch am ystyried y mater hwn. Edrychaf ymlaen at gael eich ymateb maes o law.  

 

Yn gywir,

Russell George
Cadeirydd